Awdures yn galw am gydnabod gwrth-semitiaeth Roald Dahl

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, RONALD DUMONT/HULTON/GETTY

Dylai safbwyntiau gwrth-semitaidd Roald Dahl ddim gael eu hanwybyddu yn ystod dathliadau ei ganmlwyddiant, yn ôl awdures.

Gwelwyd miloedd o bobl ar strydoedd Caerdydd ddydd Sadwrn wrth i orymdeithiau a digwyddiadau lu gael eu cynnal i nodi cyfraniad yr awdur plant.

Bydd y dathliadau yn y ddinas yn parhau ddydd Sul, gyda phicnic pajamas ym Mharc Biwt yn un o'r uchafbwyntiau.

Ond dywedodd yr awdures Jasmine Donahaye bod y sylw ar Dahl hefyd yn gyfle i gydnabod ei agwedd tuag at Iddewon, a dechrau trafodaeth ehangach ar wrth-semitiaeth.

Wrth siarad ar raglen Sunday Supplement ar BBC Radio Wales fe gyfeiriodd Dr Donahaye at rai o sylwadau Roald Dahl yn yr 1980au, pan ddywedodd bod "rhywbeth yn y cymeriad Iddewig oedd yn denu drwgdeimlad", ac "nad oedd Hitler wedi pigo arnyn nhw am ddim rheswm".

"Roedd e'n cydnabod ei hun ei fod yn wrth-semitig, dw i ddim yn meddwl bod amheuaeth am hynny. Mae'r modd yr ydych chi am ei ddehongli - roedd rhai yn awgrymu mai ceisio bod yn bryfoclyd oedd e, yn ei steil ei hun - yn fater arall," meddai Dr Donahaye.

"Os mai jyst bod yn bryfoclyd mae hynny, mae'n hynod, hynod o sarhaus."

disgrifiad o’r llunDywedodd A.C. Plaid Cymru, Dafydd Elis-Thomas y dylid gwahaniaethu safbwyntiau awdur a'i gynnyrch llenyddol

Dylai dathliadau'r penwythnos fod wedi cynnwys elfen o drafod safbwyntiau dadleuol yr awdur, yn enwedig o ystyried yr arian cyhoeddus oedd wedi mynd tuag at y digwyddiadau, yn ôl Dr Donahaye.

"Mae'n rhaid i ni ymdrin â hyn, ei gydnabod a'i drafod fel rhan o drafod Roald Dahl," meddai.

"Dyw e'n bendant ddim yn golygu na ddylen ni ei drysori a'i ddathlu fel awdur, er bod lle i gwestiynu faint o sylw rydyn ni'n ei roi iddo... dw i'n meddwl bod gofyn i ni edrych ar gymhlethdodau'r ffigwr hwnnw 'dyn ni'n ei ddathlu."

Dywedodd y byddai hefyd yn ffordd o godi'r drafodaeth ynglŷn â gwrth-semitiaeth gyda phlant, yn ogystal â dechrau sgwrs fwy cyffredinol.

"Dw i ddim yn meddwl eu bod nhw [y trefnwyr] wedi bod yn anonest, dwi'n meddwl ei fod e'n gyfle sydd wedi'i fethu."

Mae BBC Cymru wedi holi trefnwyr y dathliadau am ymateb.