Woking 2-0 Wrecsam

Mark Carrington Image copyright Rex Features
Image caption Fe fethodd Mark Carrington un o gyfleoedd gorau Wrecsam

Roedd dwy gôl hwyr gan Woking yn ddigon i drechu Wrecsam yn eu gornest yn y Gynghrair Genedlaethol.

Cafodd Mark Carrington a John Rooney gyfleoedd i'r ymwelwyr o Gymru yn yr hanner cyntaf, ond ar ben arall y cae bu bron i Fabio Saraiva roi Woking ar y blaen hefyd.

Ac fe rwydodd Saraiva gyda naw munud yn weddill o'r gêm i roi'r tîm cartref ar y blaen, cyn i'r Cymro Chike Kandi ychwanegu ail gyda munud i fynd.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Wrecsam yn llithro i hanner gwaelod y tabl.