Arestio dyn ar ôl i ŵr gael ei drywanu yng Nghaerffili
- Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio wedi digwyddiad yng Nghaerffili.
Cafodd gŵr 61 oed - sydd bellach mewn cyflwr sefydlog yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd - ei drywanu yng nghanol y dref.
Dyn lleol 43 sydd wedi cael ei arestio, ac mae yn y ddalfa.
Cafodd Heddlu Gwent eu galw i Ffordd Caerdydd yn y dref tua 17:45 nos Iau yn dilyn y digwyddiad.
Mae'r heddlu yn ymchwilio ac yn apelio am wybodaeth.