Car yn gyrru mewn i dŷ bwyta ym Mae Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae dau berson wedi eu cludo i'r ysbyty ar ôl i gar yrru mewn i dŷ bwyta ym Mae Caerdydd nos Iau.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 19:00 ar ôl i'r cerbyd daro wal tu allan i Bill's yn Stryd Stuart.
Mae lle i gredu bod un o'r bobl yn cerdded pan ddigwyddodd y digwyddiad.
Cafodd postyn lamp ei daro lawr hefyd.
Doedd neb yn y sownd yn y tŷ bwyta wedi'r digwyddiad, meddai Gwasanaeth Tân De Cymru.