Ymestyn cynllun lleihau trethi i fusnesau bach

skates a drakeford
Image caption Bu Ken Skates a Mark Drakeford mewn becws yng Nghaerdydd ddydd Iau i wneud y cyhoeddiad

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw'n ymestyn eu cynllun gwerth £98m i leihau trethi i fusnesau bach ar gyfer 2017/18.

Bydd cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach newydd hefyd yn dod i rym yn 2018 yn ôl yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, Mark Drakeford.

Dywedodd Mr Drakeford bod torri trethi ar gyfer busnesau bach yn un o brif addewidion y blaid yn etholiadau'r Cynulliad eleni.

Ond mae Ffederasiwn y Busnesau Bychan (FSB) wedi beirniadu'r cyhoeddiad, gan ddweud ei fod yn "gamarweiniol" ac nad yw'n newid llawer mewn gwirionedd.

Cynllun parhaol

Yn ôl Llywodraeth Cymru, fe fydd 70% o fusnesau bach Cymru yn elwa o'r cynllun, gyda thua hanner yr holl fusnesau sydd yn gymwys ddim yn talu unrhyw ardrethi o gwbl.

Dan y cynllun presennol, medden nhw, bydd eiddo busnes sydd â gwerth ardrethol (rateable value) hyd at £6,000 yn derbyn 100% o ryddhad, a'r rhai â gwerth ardrethol rhwng £6,001 a £12,000 yn derbyn rhyddhad yn amrywio rhwng 100% a dim.

"Roedd torri trethi busnesau bach yn un o'r prif addewidion yn ein maniffesto. Un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o wneud hyn yw drwy wneud ein cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach yn gynllun parhaol," meddai Mr Drakeford.

Ychwanegodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, y byddai'r cynllun yn "werthfawr iawn i helpu'n busnesau bach i gryfhau ac ehangu".

'Heb wireddu addewid'

Mae'r FSB wedi beirniadu'r cyhoeddiad fodd bynnag, gan ddweud mai'r unig beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud yw cadw'r trothwy fel ag y mae ar hyn o bryd.

"Rydyn ni'n croesawu'r cyhoeddiad y bydd Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach yng Nghymru yn cael ei roi ar yr un lefel barhaol â Lloegr," meddai Janet Jones, Cadeirydd Uned Bolisi FSB Cymru.

"Ond mae disgrifio'r cam hwn fel toriad treth i fusnesau bach yn amlwg yn gamarweiniol, a'r math gwaethaf o sbinddoctora."

Dywedodd na fyddai busnesau yng Nghymru yn talu llai nag y maen nhw ar y funud, gan ddweud nad y cyhoeddiad ddydd Iau yn golygu bod y Blaid Lafur wedi gwireddu'r addewid a wnaethon nhw yn eu maniffesto.