Rio: Aur i Hollie Arnold yn taflu'r waywffon
- Cyhoeddwyd

Mae'r Gymraes, Hollie Arnold wedi ennill medal aur yn taflu'r waywffon yn y Gemau Paralympaidd yn Rio.
Fe wnaeth y ferch o Ystrad Mynach osod record byd o 43.01m yng nghystadleuaeth F46 wrth sicrhau'r fuddugoliaeth.
Mae hi nawr yn ychwanegu medal aur Paralympaidd i gyd-fynd â'r un wnaeth hi ei ennill ym Mhencampwriaethau'r Byd yn Doha y llynedd.
Er mai 22 oed yw Arnold, dyma'r trydydd gwaith iddi gynrychioli Prydain mewn Gemau Paralympaidd, wedi iddi gystadlu yn Beijing yn 2008 yn 14 oed.