Rio: Arian i Jodie Grinham yn y tîm saethyddiaeth

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r Gymraes, Jodie Grinham wedi ennill medal arian gyda'i phartner, John Stubbs yn y saethyddiaeth yn y Gemau Paralympaidd yn Rio.

Fe wnaethon nhw gyrraedd ffeinal y gystadleuaeth tîm cyfansawdd cymysg gan guro De Korea yn y rownd gynderfynol.

Ond roedd China yn rhy gryf i'r pâr o Brydain yn y ffeinal, wrth iddyn nhw ennill yr aur gyda sgôr o 151-143.

Roedd Stubbs wedi ennill medal aur yn y gystadleuaeth unigol yng Ngemau 2008 yn Beijing, ond dyma'r tro cyntaf i Grinham, 23 oed, gystadlu mewn gemau Paralympaidd.

Mae hi bellach yn byw ac yn hyfforddi yn Crawley, ond o Aberteifi y mae hi'n dod yn wreiddiol.