100 i Carlson yn achub Morgannwg wedi dechrau gwael

Kiran Carlson Image copyright Rex Features

Kiran Carlson yw'r batiwr ieuengaf i daro 100 i Forgannwg wrth i'r ymwelwyr adennill tir o 34-5 i gael diwrnod da yn Essex.

Graham Napier wnaeth serennu i'r tîm cartref wrth Forgannwg golli pum wiced mewn 21 pêl cyn cinio.

Ond Carlson, 18 oed, wnaeth arwain adferiad yr ymwelwyr gyda sgôr o 101 heb fod allan wrth iddyn nhw gyrraedd 256-7 erbyn diwedd y dydd.

Fe wnaeth Carlson ac Owen Morgan lwyddo i sgorio partneriaeth o 129, gyda'r ddau yn parhau heb fod allan erbyn yr ail ddiwrnod.