Pro12: Dreigiau 11-6 Zebre

Dragons captain Lewis Evans Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Fe wnaeth y Dreigiau golli i Ulster ar benwythnos cyntaf y Pro12

Fe wnaeth Dreigiau Casnewydd Gwent guro Zebre mewn gêm flêr yn y Pro12 ar gae Rodney Parade.

Asgellwr newydd y Dreigiau, Pat Howard, sgoriodd unig gais y gêm wedi 17 munud.

Llwyddodd Nick Macleod a Carlo Canna i drosi dwy gic gosb yr un yn ystod yr hanner cyntaf.

Ond di-sgor oedd hi yn yr ail hanner, gyda'r un o'r timau yn gallu gorffen eu symudiadau ymosodol.