Mab yn cyfaddef lladd ei fam 75 oed yn yn Sir Gaerffili

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Heddlu Gwent

Mae dyn wedi cyfaddef llofruddio ei fam 75 oed yn ei chartref yn Sir Gaerffili.

Fe wnaeth Robert Owens, 47 oed, bledio'n euog i ladd Iris Owens yn Ystrad Mynach ym mis Mai y llynedd.

Roedd yn ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener trwy gyswllt fideo o garchar y ddinas.

Dywedodd y Barnwr Eleri Rees y dylai Owens gael ei asesu gan seiciatrydd "oherwydd natur yr achos".

Bydd yn cael ei ddedfrydu fis nesaf.