Cyhoeddi rhestr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2016
- Published
Mae'r rhestr fer o 12 o artistiaid wedi cael ei chyhoeddi ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig eleni.
Cafodd y wobr ei chreu yn 2011 gan y cyflwynydd radio, Huw Stephens, a'r hyrwyddwr, John Rostron.
Mae enillwyr y wobr yn y gorffennol yn cynnwys Gwenno a Gruff Rhys, ac mae nifer o artistiaid sy'n canu yn y Gymraeg wedi'u henwi ar y rhestr fer eleni unwaith eto.
Roedd y 12 ar y rhestr fer yn cael eu cyhoeddi fesul un trwy ddydd Iau gan wahanol wasanaethau, o Radio Cymru a Radio Wales yn y bore i raglen Heno ar S4C.
Y rhestr fer
- 9Bach - Anian
- Alun Gaffey - Alun Gaffey
- Cate Le Bon - Crab Day
- Climbing Trees - Borders
- Datblygu - Porwr Trallod
- Meilyr Jones - 2013
- Plu - Tir a Golau
- Right Hand Left Hand - Right Hand Left Hand
- Simon Love - It Seemed Like a Good Idea at the Time
- Skindred - Volume
- Sŵnami - Sŵnami
- The Anchoress - Confessions of a Romance Novelist
Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis gan 12 o arbenigwyr o'r byd cerddoriaeth, gan gynnwys y cerddor Amy Wadge, Dwynwen Morgan o Radio Cymru, y blogiwr Lowri Cooke a hyrwyddwr Gwyn Eiddior.
Dywedodd Mr Rostron: "Ceir yma 12 o recordiau gwahanol iawn, wedi'u creu gan artistiaid sydd wedi hen ennill eu plwyf a sêr newydd sy'n dod i'r amlwg, gyda chaneuon sy'n cwmpasu'r amrywiaeth lawn o genres, synau a dylanwadau.
"Mae cynifer o albymau newydd gwych yn cael eu rhyddhau o Gymru ar hyn o bryd - mae'n gyfnod arbennig o dda i fod yn gwrando ar gerddoriaeth newydd a chanfod ffefrynnau newydd."
Bydd enillydd y wobr yn cael ei gyhoeddi ar 24 Tachwedd yn y Depot yng Nghaerdydd.