Gyrrwr wedi marw ar ôl taro wal yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ar Heol Heywood am tua 22:00 nos Sul
Mae dyn wedi marw wedi i'w gar daro wal yn Ninbych-y-pysgod yn Sir Benfro.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ar Heol Heywood am tua 22:00 nos Sul, ble roedd car Ford Fiesta coch wedi gadael y ffordd a tharo wal.
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys y bu farw'r dyn yn y fan a'r lle.
Mae'r llu yn apelio ar unrhyw dystion i gysylltu trwy ffonio 101.