Cynllun i adfywio hen Neuadd Albert yn Abertawe

Albert Hall, Swansea Image copyright Google

Gallai hen neuadd 152 mlwydd oed yn Abertawe gael bywyd newydd fel llety myfyrwyr.

Efallai nnad yw Neuadd Albert mor enwog â'r lle o'r un enw yn Llundain, ond mae enwogion fel Charles Dickens, Oscar Wilde a David Lloyd George wedi siarad neu berfformio yn y nneuadd ar Stryd Craddock.

Bu'r neuadd yn wag ers 2007 ar ôl cael ei agor am y tro cyntaf yn 1864.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, arweinydd Cynor Abertawe: "Er bod Neuadd Albert yn adeilad rhestredig nad oes gennym gyfrifoldeb drosto, fe fyddwn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i gynorthwyo perchnogion preifat i adfer yr adeilad fel y gall gael ei ddefnyddio'n gynnaliadwy.

"Mae hyn yn bwysig gan ei fod yn adeilad sydd o bwysigrwydd hanesyddol yng nghalon y ddinas, ac fe hoffwn ei weld yn cael ei ddiogelu a'i warchod am flynyddoedd i ddod."