Cweir i Forgannwg yn erbyn Sir Northampton

Ben Duckett Image copyright Getty Images
Image caption Ben Duckett oedd prif sgoriwr Sir Northampton

Mae Sir Northampton wedi rhoi cweir i Forgannwg ar drydydd diwrnod eu gornest ym Mhencampwriaethau'r Siroedd.

Fe osododd y tîm cartref darged o 450 i Forgannwg yn eu hail fatiad, ar ôl adeiladu mantais sylweddol.

Roedd hynny'n ormod i fatwyr Morgannwg, gafodd eu bowlio am 132 o rediadau, a hynny'n sicrhau buddugoliaeth o 318 rhediad i Sir Northampton.

Nick Selman oedd sgoriwr uchaf yr ymwelwyr, gan sgorio 30 rhediad heb fod allan, ond ni lwyddodd yr un o fatwyr eraill Morgannwg sgorio mwy na 22 rhediad.

Fe gollwyd wicedi Kiran Carlson, Graham Wagg, Mark Wallace a Tim van der Gugten i gyd o fewn pum pelawd ac roedd ymdrechion hwyr y tîm o Gymru yn ofer.