Cerflun i seren rygbi'r gynghrair o Gaerdydd

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Wigan Council

Cafodd cerflun o'r seren rygbi'r gynghrair o Gaerdydd, Billy Boston, ei ddadorchuddio yn Wigan ddydd Sadwrn.

Y gŵr o Fae Teigr sydd wedi sgorio'r nifer fwyaf o geisiau yn hanes cynghreiriau Lloegr, gan sgorio 478 cais mewn 487 gêm i Wigan.

Ffynhonnell y llun, Wigan council

Arwyddodd Boston i'r clwb yn 1953, a bu'n chwarae yn Blackpool am gyfnod hefyd.

Fe wnaeth Boston, 82 oed, ddatgelu yn ddiweddar ei fod yn dioddef o ddementia.

Ffynhonnell y llun, Getty Images