Dinas Abertawe yn serennu mewn drama newydd

Cast Image copyright Lookout Point

Bydd dinas Abertawe yn serennu mewn drama newydd am fywyd yn y diwydiant ffasiwn ym Mharis ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Mae drama hanesyddol The Collection yn cael ei darlledu am y tro cyntaf ddydd Gwener, ac mae'r gyfres wedi'i rhannu'n wyth pennod awr o hyd gyda chast sy'n cynnwys Richard Coyle a Tom Riley.

Er bod y ddrama wedi'i lleoli ym Mharis, cafodd The Collection ei ffilmio yn Abertawe yn bennaf, gyda nawdd Cronfa Fuddsoddi Llywodraeth Cymru yn y Cyfryngau.

Awdur a chrëwr y saga deuluol yma yw Oliver Goldstick, awdur a chynhyrchydd Pretty Little Liars ac Ugly Betty. Mae'r stori'n dilyn dau frawd a hanes eu gwrthdaro mewn tŷ ffasiwn yn y ddinas.

Ymhlith yr actorion eraill y mae Mamie Gumer o The Good Wife, yr actores llwyfan a ffilm Frances de la Tour, a chast lleol sy'n cynnwys Bethan Mary James.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, Ken Skates: "Mae The Collection yn enghraifft arall o gyfres ddrama uchel ei phroffil yn cael ei ffilmio yng Nghymru. Mae'n rhwym o hybu a hyrwyddo ein henw da fel lleoliad gwych i ffilmio ynddo.

"Mae prosiectau o'r math hwn yn hwb anferth i'r diwydiant, gan gynnig gwaith a chyfleoedd i fagu sgiliau i griwiau o Gymru gan greu yr un pryd pob math o fanteision economaidd i fusnesau bach mewn nifer o sectorau."

Dywedodd Cahal Bannon, Pennaeth Cynhyrchu'r cwmni cynhyrchu Lookout Point, "Gwnaeth The Collection recriwtio criw a thîm adeiladu profiadol iawn o Gymru i ail-greu Paris y 1940au yn Abertawe. Roedd y canlyniadau'n rhyfeddol."