Rickie Lambert yn arwyddo i Gaerdydd

Rickie Lambert Image copyright PA

Mae Caerdydd wedi arwyddo'r blaenwr Rickie Lambert o West Brom ar gytundeb dwy flynedd.

Fe symudodd y chwaraewr 34 oed ar ddiwrnod olaf y ffenestr drosglwyddo er mwyn cryfhau opsiynau ymosodol yr Adar Gleision.

Mae Lambert wedi sgorio 214 o goliau mewn 589 gêm gynghrair yn ystod ei yrfa.

Fe wnaeth cyn-ymosodwr Lerpwl enw i'w hun fel sgoriwr cyson yn ystod ei gyfnod gyda Southampton, ac mae hefyd wedi ennill 11 cap dros Loegr.

Yn y cyfamser mae Caerdydd wedi caniatáu i Adam Le Fondre ymuno â Wigan, ac mae Federico Macheda hefyd wedi gadael.

Roedd y clwb eisoes wedi gwerthu'r golwr David Marshall i Hull, ac arwyddo'r golwr Ben Amos a'r cefnwr chwith Joe Bennett cyn i'r ffenestr gau.

Mae'r Adar Gleision hefyd wedi gadael i'r ymosodwr ifanc Rhys Healey ymuno â Chasnewydd ar fenthyg.