Morgannwg: Dechrau gwych i Carlson

Kiran Carlson Image copyright GCCC
Image caption Kiran Carlson yn chwarae i academi Morgannwg yn gynharach yn y flwyddyn

Roedd gweld enw Kiran Carlson yn nhîm Morgannwg yn dipyn o syndod i rai, ond fe gafodd y troellwr ifanc ddiwrnod i'w gofio yn ei gêm lawn gyntaf.

Cipiodd Carlson, troellwr 18 oed o Gaerdydd, bum wiced am 28 wrth i Northants sgorio 269 yn eu batiad cyntaf.

Fe allai pethau fod wedi bod yn llawer gwaeth i Forgannwg wrth i'r tîm cartref gyrraedd 203 am 2 ar un cyfnod, ond pan ddechreuodd y wicedi syrthio, fe aethon nhw'n sydyn.

Pan ddaeth tro Morgannwg i fatio fe lwyddodd Nick Selman a Jacques Rudolph chwarae drwy'r 11 pelawd i ddiwedd y diwrnod gan sgorio 23. Fe fyddan nhw'n dechrau'r ail ddiwrnod 246 y tu ôl i Sir Northants.