Dyn wedi marw wedi digwyddiad ger harbwr Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
Roedd y cwch cyflym yn symud o gwmpas yr harbwr gyda neb arni
Mae dyn wedi marw wedi i ddau berson gael eu tynnu o'r môr ger harbwr Aberystwyth fore Mercher.
Cafodd yr heddlu, yr ambiwlans a gwylwyr y glannau eu galw am tua 09:30 fore Mercher.
Roedd adroddiadau bod cwch cyflym 16 troedfedd o hyd yn symud o gwmpas yr harbwr gyda neb arni.
Fe gadarnhaodd Bad Achub Aberystwyth eu bod nhw hefyd yn cynorthwyo'r ymdrechion, ac fe gafodd hofrennydd achub o Gaernarfon hefyd ei alw.
Cafodd ddau berson eu tynnu o'r dŵr a'u cludo i'r ysbyty, ond yn anffodus, bu farw un o'r dynion.
Dywedodd y gwasanaethau brys bod y dyn arall mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.
Ffynhonnell y llun, Dimitri Legakis
Cafodd y cwch cyflym ei gludo'n ddiogel i'r marina yn Aberystwyth