Tlws yr EFL: Abertawe a Chasnewydd yn colli

Gerhard Tremmel Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Roedd Gerhard Tremmel yn un o'r chwaraewyr hŷn yn nhîm Abertawe i herio Wimbledon

Mae Abertawe a Chasnewydd wedi colli yn eu gemau cyntaf yn Nhlws yr EFL eleni.

Cafodd tîm dan 23 yr Elyrch eu trechu gan Wimbledon o 3-0, ac fe gollodd yr Alltudion oddi cartref o 4-1 yn Plymouth.

Rhain oedd gemau grŵp cyntaf y ddau dîm yn y tlws eleni, sydd yn golygu bod ganddyn nhw gyfleoedd eto i sicrhau eu lle yn y rownd nesaf.

Mae ffurf y gystadleuaeth, sydd bellach wedi'i noddi gan Checkatrade, wedi cael ei addasu y tymor hwn er mwyn caniatáu i rai timau dan 23 o'r Uwch Gynghrair a'r Bencampwriaeth, gan gynnwys Abertawe, gymryd rhan. Cyn eleni dim ond timau o Gynghrair Un a Chynghrair Dau oedd yn cystadlu ynddi.

Wimbledon 3-0 Abertawe dan 23

Fe ddewisiodd Abertawe dri chwaraewr dros 23 ar gyfer eu trip i Lundain, yn unol â rheolau'r gystadleuaeth - y golwr Gerhard Tremmel, y cefnwr chwith Frank Tabanou a'r ymosodwr Marvin Emnes.

Ond fe gafodd tîm ifanc yr Elyrch noson anodd, gyda Wimbledon yn mynd ar y blaen wedi 38 munud diolch i ergyd Andy Barcham.

Cafodd y fantais ei dyblu gan Dominic Poleon ar ôl 57 munud, ac fe ychwanegodd Poleon drydedd gôl ddeng munud yn ddiweddarach i sicrhau'r tri phwynt.

Plymouth 4-1 Casnewydd

Colli oedd hanes Casnewydd hefyd, er iddyn nhw fynd ar y blaen ar ôl 19 munud wrth i Jordan Green rwydo o groesiad Jennison Myrie-Williams.

Ar ôl yr egwyl fe sgoriodd Plymouth ddwy gôl mewn saith munud, gyda pheniad Jordan Slew ar ôl 51 munud yn unioni'r sgôr ac yna ergyd Jake Jervis yn rhoi'r tîm cartref ar y blaen.

Fe ychwanegodd Nauris Bulvitis drydedd wedi 69 munud, ac fe rwydodd Craig Tanner yn ystod yr amser ychwanegol am anafiadau i selio'r fuddugoliaeth.