Llanc yn y llys ar gyhuddiad o herwgipio a threisio
- Cyhoeddwyd

Mae llanc 18 oed wedi ymddangos yn Llys Ynadon Llandudno wedi'i gyhuddo o herwgipio, treisio a chlwyfo dynes 62 oed.
Cafodd Jack Karl Thomas Williams o'r Rhyl ei gadw yn y ddalfa i ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon fis nesaf.
Mae'n dilyn digwyddiad honedig ar draeth Pensarn yn Abergele yn oriau man y bore ddydd Sadwrn.
Roedd y ddynes angen triniaeth yn yr ysbyty yn dilyn yr ymosodiad honedig.
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio i unrhyw dystion i gysylltu â'r llu.