Chwaraewr Gorau Ewrop: Ronaldo'n curo Bale
- Cyhoeddwyd

Daeth siom i Gareth Bale wrth i Cristiano Ronaldo gael ei ddewis fel pêl-droediwr gorau Ewrop nos Iau.
Roedd Bale ar y rhestr fer o dri ar gyfer y wobr gyda Ronaldo ac Antoine Griezmann o Ffrainc.
Wrth dderbyn y wobr fe roddodd Ronaldo deyrnged twymgalon i'r ddau arall gan eu llongyfarch am eu perfformiadau drwy'r flwyddyn.
Fe wnaeth Ronaldo hefyd 'ymddiheuro' i Bale a Griezmann gan mai Portiwgal a gurodd Cymru a Ffrainc ar eu ffordd i ennill Euro 2016 wrth gwrs.
Cyn cyhoeddi'r enillydd, dywedodd Bale ar y llwyfan yn Monaco: "Roedd mynd mor bell ag y gwnaethon ni yn Euro 2016 yn rhywbeth yr oedd neb wedi'i ddisgwyl.
"Ond mae'r tîm {Cymru} yn mynd ymlaen i adeiladu ar hynny nawr."
Fe fydd Cymru yn dechrau eu hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd 2018 yng Nghaerdydd ymhen wythnos a hanner.