Apêl April: Cyngor Machynlleth yn cwrdd

April Jones
Image caption Fe gyfrannodd y cyhoedd ddegau o filoedd o bunnau er cof am April Jones

Mae Cyngor Tref Machynlleth yn cwrdd heddiw i ystyried argymhellion adroddiad sy'n beirniadu'r ffordd y delion nhw ag arian a roddwyd er cof am April Jones.

Yn ôl archwilydd, fe aeth y cyngor tu hwnt i'w bwerau drwy roi £71,663 yn y banc cyn ei drosglwyddo i gronfa goffa April.

Mae'r adroddiad yn dweud y dylai'r cyngor fod wedi gwrthod yr arian.

Yr ymdrech i ddod o hyd i April yn 2012 oedd yr ymgyrch chwilio fwyaf yn hanes heddluoedd y DU. Cafodd Mark Bridger ei garcharu am oes yn 2013 am ei llofruddio.

Bydd y cyngor hefyd yn trafod casgliadau eraill yr adroddiad, sy'n feirniadol o arafwch y cyngor wrth gwblhau eu cyfrifon ac o fethiant gan glerc y cyngor i hawlio arian yn ôl.