Help peiriannydd i adfer camlas hanesyddol Abertawe

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Camlas Abertawe

Mae peiriannydd oedd yn ymwneud â'r gwaith o lenwi camlas Abertawe yn y 1970au wedi cytuno i helpu gwirfoddolwyr i ail agor darnau o'r llwybr.

Mae'r llwybr, sy'n 16 milltir o hyd, yn dechrau yn Abertawe gan orffen yn Abercraf ym Mhowys.

Ond ers 1958 mae darnau ohoni wedi eu hamddifadu, gwerthu neu lenwi.

Mae John Evans yn mynd i geisio cynghori'r rhai sydd yn ymwneud gyda'r prosiect er mwyn adfer un o'r lociau dŵr ger Clydach.

Cymdeithas Camlas Abertawe a Glandŵr Cymru, sef Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yng Nghymru, yw'r rhai sydd yn gyfrifol am y gwaith.

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Camlas Abertawe
Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Camlas Abertawe

Mae'r grŵp yn honni mai dim ond chwe milltir o'r llwybr sydd ar ôl ac mai chwech o'r lociau dŵr sydd bellach yn bodoli, er bod 36 ohonynt ar un cyfnod.

Dywedodd Martin Davies o Gymdeithas Camlas Abertawe: "Mae John wedi rhoi mwy o wybodaeth i ni ynglŷn â'r hyn ddigwyddodd y diwrnod y cafodd y loc ei gladdu.

"Rydyn ni'n gobeithio bydd y Gymdeithas ac Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yn gallu adfer y lociau a'r gamlas a gwobrwyo John am ei weithredoedd."

Dywedodd Nick Worthington o Glandŵr Cymru bod cael help un o'r peirianwyr gwreiddiol yn hwb mawr i'r gwaith.