Gŵyl gerddoriaeth Glass Butter Beach i ailagor ddydd Sul

GBB Image copyright Glass Butter Beach
Image caption Mae'r ŵyl yn cael ei chynnal rhwng Abersoch a Llanbedrog

Bydd diwrnod olaf gŵyl gerddoriaeth yng ngogledd Cymru yn cael ei chynnal ddydd Sul, wedi iddi gael ei chanslo ddydd Sadwrn oherwydd tywydd garw.

Bydd amserlen wreiddiol pob un o bum llwyfan gŵyl Glass Butter Beach yn Abersoch yn cael ei ddefnyddio.

Bu'n rhaid canslo'r digwyddiad ddydd Sadwrn oherwydd "rhesymau iechyd a diogelwch".

Ond mewn datganiad fore Sul, dywedodd trefnwyr yr ŵyl: "Rydyn ni wedi gweithio'n galed i gadw'r safle yn ddiogel ac mewn cyflwr da.

"Rydyn ni wedi gorfod gwneud rhai newidiadau, ond mae'r safle yn edrych yn grêt ac fe fyddwn ni'n barod.

Bydd yr ŵyl yn agor am 12:00 ddydd Sul, a bydd tocynnau dydd Sadwrn hefyd yn gymwys.

Straeon perthnasol