Codi sŵn yn y Pafiliwn

Nos Sadwrn 22 Hydref bydd 'na gyfle i fwynhau un o uchafbwyntiau Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni yn Gig y Pafiliwn 2016 ar S4C.

Roedd nos Iau yn y Pafiliwn yn gwbl wahanol i'r hyn oedd wedi ei weld o'r blaen. Roedd 'na gyngerdd gyda'r bandiau Candelas, Sŵnami ac Yr Ods yn chwarae i gyfeiliant Welsh Pops Orchestra, gyda Huw Stephens yn cyflwyno.

Am y tro cyntaf, roedd bar yn y pafiliwn, a lle i bobl sefyll a dawnsio'r wyllt yn y blaen, gan greu awyrgylch gig go iawn. Cafodd Cymru Fyw sgwrs â rhai o'r unigolion oedd yno:


Image copyright Haf Elgar

Y cyfansoddwr a'r trefnydd cerddoriaeth Owain Llwyd oedd Cyfarwyddwr Cerdd y cyngerdd ac yntau oedd yn arwain y gerddorfa ar y noson hefyd.

"Dwi wedi bod yn breuddwydio am wneud y math yma o beth ers rhyw bum mlynedd bellach. Dwi wedi trefnu cerddoriaeth gerddorfaol i Casi Wyn, ar gyfer Proms in the Park yn y gorffennol. Felly pan ges i'r gwahoddiad ddechrau'r flwyddyn i fod yn rhan o'r cyngerdd, nes i neidio ar y cyfle.

"Nes i fwynhau'r broses o roi'r cyngerdd at ei gilydd, gan mod i'n 'nabod y bandiau. Mae Ifan Davies (Sŵnami), Osian Williams (Candelas) ac Osian Howells (Yr Ods) yn fyfyrwyr cyfredol neu'n gyn-fyfyrwyr yn Ysgol y Gerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, ble dwi'n darlithio. Felly roedd o'n brosiect lle o'n i'n gallu gweithio ar lefel broffesiynol efo ffrindiau, mewn ffordd.

"Osian oedd yn trefnu caneuon Candelas, a fi oedd yn trefnu'r gweddill. Roedd hi'n bleser mawr i mi gael cydweithio efo fo, ac mi wnaeth o job aruthrol o dda - mae o'n dalentog iawn.

"Gan mod i'n trefnu caneuon roedd rhywun arall wedi eu cyfansoddi, i ddechrau, roedd rhaid i mi ddod i 'nabod y gân. Yn y sefyllfa honno, mae rhywun yn dod ag ogwydd arall, bersonol i ddarn o gerddoriaeth. Nes i wir fwynhau.

Y Steddfod yn symud 'mlaen

"Mae'r math yma o brosiect yn bwysig, a pha well llwyfan na'r Eisteddfod Genedlaethol? Roedd y gynulleidfa yn un amrywiol iawn - o rhyw 7 i 77 oed, mae'n siŵr! Roedd yna bendant awyrgylch bod 'na rywbeth arbennig yn digwydd. Mae hi mor bwysig i gynnig pethau newydd, a gyda'r pafiliwn newydd, dyna oedd y llwyfan, a dyna oedd y foment, i symud ymlaen.

"Rhan o'r llwyddiant oedd y llwyfannu ei hun - sut oedd y gerddorfa a'r bandiau wedi eu gosod - a'r goleuadau, wrth gwrs. Roedd o'n sioe ac yn enfawr ac yn gweithio.

Image copyright Gruffudd Pritchard

"Byddai cynnig rhywbeth tebyg yn y dyfodol yn sicr yn denu cynulleidfa, heb os. Mae 'na alw am y math yma o blethiad o'r elfen ffilm a cherddoriaeth glasurol, gyda cherddoriaeth boblogaidd. Mae bandiau mawr fel Metallica wedi gwneud hyn o'r blaen a gwerthu pob tocyn mewn arenas anferth.

"Ac roedd y cyngerdd ei hun yn anhygoel - dwi erioed wedi cael gymaint o hwyl yn fy mywyd! Fel arfer, dwi'n gweithio yn y cefndir - ac wrth fy modd yn gwneud hynny - yn helpu pethau i ddigwydd, fel cyfansoddi a threfnu. A phan mae'r cyngerdd ymlaen, fel arfer alla i eistedd yn y gynulleidfa a mwynhau.

"Felly dyma'r tro cyntaf wir i mi fod ar y llwyfan yn arwain a dwi erioed wedi cael y wefr yna - gwefr anhygoel - ac mae'r teimlad yna am fod efo fi am byth."

Image copyright Geraint Lovgreen
Image caption Elen Elis yn mwynhau ffrwyth llafur yr holl waith ar y noson

Y Brifwyl yn mentro

Roedd Elen Elis, Trefnydd yr Eisteddfod, yn hapus iawn gyda llwyddiant y noson:

"Roedd Sioned Edwards a Griff Lynch wedi bod yn trafod cynnal noson o'r fath ar Lwyfan y Maes, a nes i gynnig y gallen ni ei chynnal yn y Pafiliwn. Mae ganddon ni bafiliwn newydd, efo adnoddau gwahanol, mwy hyblyg; acwstig gwell, seddi gwell, baneri digidol, ac roedd hyn yn ein galluogi i wneud theatr o'r pafiliwn.

"O'n i'n gwybod y gallai fod yn gyngerdd poblogaidd oherwydd hynny, yn enwedig gan fod yna hefyd le yn y blaen i bobl ddawnsio, fel mewn gig.

"Gwaith tîm oedd yr holl beth, o'r syniad gwreiddiol i'r datblygu a'r noson ei hun. Roedd rhaid i ni berswadio llawer o bobl, ond dwi mor falch ein bod ni wedi mynd amdani. Un peth oedd rhaid ei wneud oedd hyrwyddo fel ffyliaid - mae 'na rai sydd byth yn mynd i'r Pafiliwn, felly roedd rhaid i ni ddweud wrthyn nhw ei bod hi'n ocê iddyn nhw fynd yna.

"Roedd o'n risg. Ond rhaid oedd gwneud er mwyn sicrhau fod pobl yn dod. Ac mi ddaethon nhw - tua 1,600 o bobl o bob oed - a phawb wrth eu boddau ac wedi gwir fwynhau. Felly roedd y risg ei werth o. Os ti'm yn cymryd risg, ac ddim yn derbyn syniadau pobl, ti methu symud ymlaen.

"Mae 'na gymaint o bethau i bobl fynd iddyn nhw y dyddiau yma, ac mae pobl yn ffysi. Felly mae'n ddyletswydd arnon ni i gynnig rhywbeth mae pobl eisiau dod iddo."

Image copyright Geraint Lovgreen
Image caption Roedd Geraint Lovgreen yn canmol y noson i'r cymylau ar Twitter

Noson orau yn y Pafiliwn erioed?

Roedd y canwr, Geraint Lovgreen, yn y dyrfa ac wedi cael modd i fyw:

"O'dd o'n hollol wych.

"Does 'na ddim byd yn y Pafiliwn dwi 'di bod isio mynd i'w weld dros y blynyddoedd. Mae nhw fel 'tasa nhw'n meddwl fod y pethau 'ma i bobl ifanc - ond 'da ni'n bobl 60 oed, a 'rioed wedi cael be' 'da ni isio yn y Pafiliwn. Roedd o y peth tebyca i be' 'sa ti'n ei weld mewn gig oedd ddim byd i'w 'neud â'r Steddfod.

"Roedd o mor broffesiynol, a phopeth wedi gweithio'n grêt - roedd safon y gerddoriaeth, y trefniadau, y gerddorfa a'r bandiau i gyd yn wych.

"Ac yn y dyfodol dwi'n meddwl fod angen cynnig pethau tebyg, a mynd i ffwrdd o'r syniad yma o 'Noson Lawen' 'chos mae o'n beth mor hen ffasiwn - dydy o ddim yn canu cloch efo pobl ein hoed ni, heb sôn am bobl hanner ein hoed ni.

"Ro'n i'n teimlo buzz yn y Pafiliwn - eitha tebyg i'r awyrgylch oedd yn y stands tra o'n i'n gwylio'r pêl-droed yn Bordeaux fis Mehefin - a dydy hynny ddim yn deimlad dwi 'rioed wedi ei deimlo yn y Pafiliwn o'r blaen."

Image copyright Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Ailadrodd y llwyddiant yn 2017?

Elen Elis sy'n egluro: "Dydyn ni heb sortio popeth ar gyfer flwyddyn nesa' eto, ond mae angen edrych beth allwn ni ei wneud i greu'r un cyffro a denu ystod eang o oedran.

"Roedd pob un o'r cyngerddau eleni wedi bod yn llwyddiant - cyngerdd Côr yr Eisteddfod efo'r Big Band ar y nos Sadwrn - roedd pobl wedi gwirioni efo hwnnw, ac roedd yn rhywbeth mor wahanol. A chyngerdd Catrin Finch wedyn, ble defnyddion ni'r dechnoleg newydd o fewn y Pafiliwn i greu planetarium, weledol wych, a phlethu cerddorion, cantorion a dawnswyr yn effeithiol.

"Felly mae'r adnoddau newydd sydd ganddon ni yn rhoi'r cyfle i ni arbrofi, cymryd risg a chynnig pethau gwahanol."


Gig y Pafiliwn 2016, S4C, Nos Sadwrn, 22 Hydref, 20:30

Hefyd ar y BBC