Cau'r A55 wedi gwrthdrawiad car a lori yn Llanfairfechan

Heddlu

Cafodd yr A55 ei chau nos Fercher yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a lori yn Llanfairfechan.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad am 19:20.

Dywedodd y gwasanaeth tân bod un person wedi eu hanafu.

Mae'r heddlu yn ymchwilio wrth i barafeddygon drin yr unigolyn.