Miloedd o fyfyrwyr yn disgwyl canlyniadau Lefel A
Bethan Lewis
Gohebydd Addysg BBC Cymru
- Cyhoeddwyd

Fe fydd miloedd o bobl ifanc ar draws Cymru yn derbyn eu canlyniadau Lefel A fore Iau.
Llynedd roedd canran y radd orau, A*, ar ei lefel uchaf ers ei gyflwyno yn 2010.
Ond roedd canran y graddau A* i E - 97.3% - ychydig yn is na'r flwyddyn flaenorol, ac yn waeth na Gogledd Iwerddon a phob rhanbarth yn Lloegr.
Mae'r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams wedi danfon ei dymuniadau gorau i'r rhai sydd yn aros am ganlyniadau, gan bwysleisio bod nifer o opsiynau i'r rheini sydd ddim yn cyrraedd y nod.
Llai yn astudio Cymraeg
Mathemateg yw'r pwnc mwyaf poblogaidd eto eleni gyda 3,780 wedi ceisio, a 3,520 yn aros am ganlyniadau Saesneg.
Mae 620 o fyfyrwyr Cymraeg, sydd 9% yn is na llynedd, a lawr o 760 yn 2013.
Yn sgil pryder am y niferoedd sy'n dewis ieithoedd modern, mae 'na ostyngiad o 11% i Lefel A Ffrangeg, a 26% yn llai wedi dewis Sbaeneg.
Mae'r Gyfraith yn fwy poblogaidd na llynedd, gyda chynnydd o 13% i 660 o geisiadau, ac mae dros 1,400 yn aros am ganlyniadau Cymdeithaseg.
Fe fydd canlyniadau cymwysterau AS newydd mewn 14 pwnc yn cael eu cyhoeddi gan gynnwys Saesneg, Cymraeg, Hanes a phynciau gwyddoniaeth.
Mae ASau fel arfer yn gymwysterau blwyddyn sy'n cyfri' fel 40% o'r gradd safon uwch terfynol.
Dyma'r ail flwyddyn y bydd myfyrwyr y Fagloriaeth Gymreig yn derbyn gradd, wedi i'r drefn newydd gael ei gyflwyno llynedd.
'Ystod o opsiynau'
Am y tro cynta', Democrat Rhyddfrydol fydd yn ymateb i'r canlyniadau ar ran Llywodraeth Cymru wedi i Kirsty Williams gael ei phenodi i Gabinet Llafur Carwyn Jones yn Ysgrifennydd Addysg.
Ar drothwy'r canlyniadau, ymbiliodd ar rheini sydd ddim yn cael eu graddau i beidio dychryn.
"Mae yna ystod o opsiynau a gwasanaethau i'ch helpu i benderfynu beth i'w wneud nesaf," meddai.
Wrth ddymuno'r gorau i'r rhai sydd yn aros dywedodd: "Rwy'n cofio'n iawn y nerfau a'r oriau yn edrych ar y cloc nes y gallen i agor yr amlen yna i weld fy ngraddau ac ystyried fy opsiynau nesaf."
Mae ymchwil gan Gyrfa Cymru yn awgrymu bod dau draean o'r bobl ifanc 18 oed adawodd ysgol llynedd wedi mynd ymlaen i brifysgol.
Aeth un o bob pump i addysg bellach neu i astudio llawn amser rhywle arall.
Fe wnaeth 14.5% gael swydd neu hyfforddi yn y gweithle.
Roedd bron i 4% ddim mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant ddeufis ar ôl diwrnod canlyniadau.