Arestio dau wedi digwyddiad yn Abertawe
- Cyhoeddwyd

Mae dau o bobl wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â byrgleriaeth, wedi i'r ddau wrthod gadael atig tŷ am bron i 24 awr.
Fe gafodd trafodwyr arbenigol yr heddlu eu galw i dŷ ar Ffordd Townhill, Abertawe, am 14:00 ddydd Sul.
Roedd yn rhaid i swyddogion siarad â'r ddau drwy dwll mewn wal, gan eu cynnal gyda bwyd a diod yn ystod y digwyddiad ac bu'n rhaid preswylwyr o adeiladau cyfagos.
Fe gafodd y dyn 26 oed a dynes 23 oed eu harestio am tua 12:00 ddydd Llun.