Siom i Gaerdydd gartref yn erbyn QPR

Image copyright Rex Features

Caerdydd 0- 2 QPR

Mae Caerdydd wedi colli trydydd gêm y tymor yma gartref yn erbyn Queens Park Rangers.

Digon di fflach oedd hi yn yr hanner cyntaf ac er bod gan yr Adar Gleision 60% o'r meddiant doedden nhw ddim yn fygythiad go iawn i'r ymwelwyr.

Ond fe newidiodd pethau yn yr ail hanner wrth i QPR ddechrau pwyso ac yn yr 20 munud olaf nhw oedd y tîm cryfaf.

Fe ddaeth y gôl gyntaf i Steven Caulker, cyn chwaraewr Caerdydd.

Cic o'r smotyn oedd yr ail gôl i Tjarron Chery gan olygu bod hi ar ben i Gaerdydd.

Dyw'r Adar Gleision ddim wedi sgorio yn ystod eu tair gêm gyntaf yn y tymor newydd, ystadegyn sydd yn siŵr o bryderu Paul Trollope a'r chwaraewyr.