Siom i Wrecsam ar ôl colli yn erbyn Aldershot

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llunGetty Images
disgrifiad o’r llunFe anfonodd Gary Mills dri eilydd i'r cae ar gyfer yr ail hanner er mwyn ceisio troi'r ornest o blaid Wrecsam

Aldershot 2- 0 Wrecsam

Mae Wrecsam wedi colli eu gêm gynghrair gyntaf y tymor yma oddi cartref yn Aldershot.

Fe rwydodd yr asgellwr Shamir Fenelon i'r tîm cartref ar ôl tri munud yn unig wedi i gapten Wrecsam, Shaun Newton ildio'r meddiant.

Cafodd yr ail ei hychwanegu gan Scott Rendell ar ôl 58 munud.

Cyn y gêm hon roedd Wrecsam wedi ennill un a chael un canlyniad cyfartal yn y Gynghrair Genedlaethol.

Roedd yr ymosodwr Gerry McDonagh yn dechrau ei gêm gyntaf dros y Dreigiau ers symud ar fenthyg o Nottingham Forest.

Ond yn dilyn perfformiad yr hanner cyntaf fe wnaeth rheolwr Wrecsam Gary Mills benderfyniad dewr yn ystod yr egwyl gan ddod â thri eilydd ymlaen ar gyfer yr ail hanner, gyda Callum Powell, Michael Bakare a Nortei Nortey yn dod i'r cae yn lle Tyler Harvey, Jordan Evans ac Anthony Barry.

Ni lwyddodd hynny i newid y canlyniad, gyda chroesiad Bernard Mensah yn creu ail gôl Aldershot i Rendell.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Wrecsam yn llithro i'r seithfed safle yn y gynghrair.