Adnabod y corff yn y môr ger Y Bermo

Waseem Image copyright AMANAH FC / TWITTER
Image caption Waseem Al-Muflehi

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau mai Waseem Al-Muflehi yw'r dyn ifanc gafodd ei ddarganfod yn farw brynhawn dydd Sadwrn yn y môr ger Llanaber.

Fe aeth Yahye Omar Mohamed 14, a'i ffrind Waseem Al-Muflehi, 15, ar goll ar ôl bod yn nofio yn y môr ger Y Bermo y penwythnos diwethaf.

Mae ei deulu wedi cael gwybod.

Mae'r heddlu yn dweud nad ydyn nhw'n trin y farwolaeth fel un amheus.

Cafwyd hyd i gorff Yahye Omar Mohamed fore Gwener.

Dywedodd yr Arolygydd Andy McGregor o Heddlu'r Gogledd: "Neithiwr fe gafodd corff Waseem ei adnabod gan aelodau o'r teulu ac mae ein meddyliau gyda'r teulu a theulu ei ffrind Yahye Omar Mohamed hefyd yn ystod y cyfnod anodd yma.

Image copyright FACEBOOK
Image caption Yahye Omar Mohamed

"Rydyn ni yn cynnig cefnogaeth i'r ddau deulu ac yn gofyn i chi barchu eu preifatrwydd."

Roedd y ddau ddyn ifanc wedi bod yn rhan o griw o bobl o Birmingham oedd yn ymweld â'r dref ar arfordir Cymru.

Daeth y gwaith o chwilio am y ddau lanc i ben yn gynharach yr wythnos hon.