Buddugoliaeth i Gasnewydd yn erbyn Leyton Orient

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Gôl Jamie Turley

Leyton Orient 0-1 Casnewydd

Mae Jamie Turley wedi sicrhau buddugoliaeth gyntaf y tymor i Gasnewydd oddi cartref yn erbyn Leyton Orient.

Hon oedd unig gôl y gêm ond fe gafodd yr Alltudion sawl cyfle yn y chwarter awr gyntaf.

Yn yr ail hanner roedd y tîm cartref yn pwyso yn gyson ac fe gafodd Casnewydd ddihangfa wrth i Ollie Palmer fethu cyfle i benio i gefn y rhwyd.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod Casnewydd yn symud fyny i'r 12fed safle yn y gynghrair.