Y Cymro Emyr Huws yn ymuno â Chaerdydd o Wigan
- Cyhoeddwyd

Mae Emyr Huws wedi cynrychioli Cymru ar saith achlysur, gan sgorio unwaith
Mae chwaraewr canol cae Cymru, Emyr Huws wedi ymuno â Chaerdydd o Wigan ar gytundeb tair blynedd.
Roedd y gŵr 22 oed o Lanelli ar fenthyg yn Huddersfield y llynedd, gan sgorio pum gwaith mewn 29 o gemau.
Roedd Huws yn rhan o garfan hyfforddi Cymru ar gyfer Euro 2016, ond ni lwyddodd i wneud y garfan derfynol o 23 o chwaraewyr.
"Mae hi'n grêt bod yn ôl yn ne Cymru ac rwy'n falch iawn o fod yn ymuno â chlwb mawr fel Caerdydd," meddai.
"Rydw i'n 'nabod y rhan fwyaf o'r staff hyfforddi oherwydd y cysylltiadau gyda Chymru, a dydw i methu disgwyl i gwrdd â gweddill y bechgyn a dechrau arni."