Rio: Medal arian i dîm rygbi 7-pob-ochr Prydain
- Cyhoeddwyd

Mae gan y Cymry sy'n cystadlu yn Rio bedair medal arian bellach yn y Gemau Olympaidd.
Roedd y Cymry James Davies a Sam Cross yn nhîm rygbi 7- bob ochor Prydain gollodd yn y rownd derfynol o 43-7 yn erbyn y ffefrynnau Fiji.
Fe lwyddodd Team GB i gyrraedd y ffeinal, gafodd ei gynnal yn hwyr nos Iau, ar ôl trechu De Affrica o 7-5 yn y rownd gynderfynol.
Roedd De Affrica ar y blaen o 5-0 ar yr hanner cyn i gais Dan Norton a throsiad Tom Mitchell roi Prydain ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner.
Cyn hynny roedd y tîm eisoes wedi trechu Kenya, Japan, Seland Newydd ac Ariannin yn y gystadleuaeth.
James Davies