Cynghorau yn torri ar eu cyllidebau torri gwair

A roadside grass verge and footpath in Wrexham

Mae dros hanner awdurdodau lleol Cymru wedi cwtogi eu cyllidebau torri gwair dros y blynyddoedd diwethaf.

Yn ôl un arweinydd cyngor, fe all hyn olygu bod rhagor o gynghorau tref a chymunedol yn ysgwyddo'r baich yn y dyfodol.

Mae ymchwil gan Newyddion 9 yn dangos bod 12 o gynghorau yn gwario llai ar dorri gwair wrth i awdurdodau geisio cadw o fewn eu cyllidebau.

Mae Cyngor Gwynedd, Powys a Chaerffili wedi cyfaddef eu bod wedi gwneud arbedion o leiaf £180,000 yn y ddwy flynedd diwethaf.

Daeth y wybodaeth i law yn dilyn cais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ac fe wnaeth 19 o awdurdodau lleol ymateb.

Dywedodd arweinydd Cyngor Gwynedd a llefarydd Cymdeithas Llywodraeth leol Cymru, Dyfed Edwards: "Yn ystod y cyfnod o ymgynghori da' ni wedi gwneud fel cyngor, da' ni wedi ceisio adnabod y gwasanaethau hynny mae'n rhaid i ni gynnal.

"Does dim modd i ni ddisgwyl i bobl eraill eu cynnal nhw, yn arbennig gwasanaethau gofal, addysg, priffyrdd ac yn y blaen.

"Ond hefyd gofyn i bobl, yn arbennig y rhai sydd ar gynghorau tref a chynghorau chymuned, oes modd iddyn nhw gamu i'w adwy a cheisio cynnal rhai o'r gwasanaethau lleol yna, gan gynnwys torri gwair."

Ychwanegodd bod "cyfle" i wneud hynny yn ogystal â chyfle i bobl "gynorthwyo a cheisio cynnal rhai o'r gwasanaethau lleol yna".

Mae Cyngor Gwynedd wedi torri £240,000 o'u cyllideb torri gwair eleni a Phowys £200,000 yn 2014/15 gan ddweud y bydden nhw'n gwneud toriad ychwanegol o £160,000 yn y blynyddoedd nesa'.

Bydd Casnewydd yn gwneud arbedion o £130,000 eleni a Phen-y-bont £132,000.

Mae cynghorau Penfro, Merthyr, Conwy, Sir Fflint, Sir Fynwy, Ceredigion, Ynys Môn a Chaerffili hefyd wedi gwneud toriadau i'r gyllideb torri gwair