Abertawe yn derbyn cynnig am Ashley Williams gan Everton
- Cyhoeddwyd

Mae Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe wedi derbyn cynnig gan Everton am yr amddiffynnwr Ashley Williams.
Y gred yw bod y clwb o Lerpwl wedi cynnig £12m am gapten Cymru.
Fe wnaeth yr Elyrch wrthod cynnig o £10m gan Everton am eu capten yn gynharach yn y mis.
Roedd Williams, sy'n 31 oed, o dan gytundeb gydag Abertawe tan 2018.
Mae wedi chwarae mwy na 300 o gemau i'r clwb ers ymuno am £300,000 o Stockport yn 2008.