Gemau Olympaidd Rio: Y Cymry sy'n cystadlu ddydd Gwener

Image copyright Getty Images

Athletau

Enw: Seren Bundy-Davies

Camp: Ras gyfnewid 4x400m - Rownd gyntaf

Dyddiad geni: 30 Rhagfyr, 1994

Man geni: Manceinion

Anrhydeddau: Aur yn y 4x400 ym Mhencampwriaethau Ewrop 2016, efydd yn y 4x400 ym Mhencampwriaethau'r Byd 2015

Bundy-Davies yw'r unig athletwr trac a maes o Gymru yn Rio - y tro cyntaf i hynny ddigwydd ers gemau Helsinki yn 1952. Mae gobaith y bydd hi'n ennill medal yn y ras gyfnewid, a dyma fyddai medal athletau cyntaf y Cymry ers i Jamie Baulch ac Iwan Roberts ennill medal arian yn ras gyfnewid 4x400 yn Atlanta 1996. Mae'r athletwraig 21 oed yn astudio gwyddoniaeth fiofeddygol ym Mhrifysgol Manceinion.