Dyn wedi marw wedi gwrthdrawiad yn y Rhondda

heddlu

Mae dyn 26 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ffordd yn y Porth, Rhondda Cynon Taf.

Mae ei deulu wedi cael gwybod ac yn derbyn cefnogaeth gan swyddog cyswllt teulu.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ychydig wedi 02.00 fore Sadwrn, 30 Gorffennaf ar ffordd yr A4223 yn ardal Nant-y-Gwyddon.

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion.