Gohirio penderfyniad cynllun trydan dŵr gwerth £12m
- Cyhoeddwyd

Mae penderfyniad ar gynllun trydan dŵr gwerth £12m yn Nyffryn Conwy wedi cael ei ohirio.
Gobaith RWE Innogy yw pwmpio dŵr o Afon Conwy i'r prosiect trydan ym Metws-y-Coed.
Roedd disgwyl i Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gyhoeddi faint o ddŵr gallai'r datblygwr ei dynnu, ond maen nhw eisiau mwy o amser i ystyried y cynlluniau.
Mae datblygwyr yn honni y byddai'r prosiect yn cynhyrchu digon o drydan "gwyrdd" i ddiwallu anghenion 3,200 o dai.
Ond pryder ymgyrchwyr yw y bydd hanner acer o Ffos Anoddun yn cael ei ddinistrio.
Mewn datganiad, mae CNC yn dweud eu bod eisiau mwy o amser i edrych ar y manylion cyn dod i gasgliad.
Fe wnaeth Awdurdod y Parc Cenedlaethol wrthod y cynigion cynllunio ym mis Mawrth.
Dywedodd pennaeth cynllunio CNC y byddai caniatâd ynghylch faint o ddŵr gallai'r datblygwr ei dynnu yn cael ei roi os yw'n bosib sicrhau y gall "weithredu'n ddiogel, heb niweidio'r amgylchedd neu gymunedau lleol".
Ychwanegodd Richard Ninnes: "Mae gan Ddyffryn Conwy amgylchedd cyfoethog sy'n gartref i nifer eang o fywyd gwyllt ac mae'n boblogaidd gyda phobl leol a thrigolion.
"Dyma un o'r ceisiadau trydan dŵr mwyaf rydym wedi gorfod delio gydag ac mae'n gymhleth.
"Ymysg y materion rydym wedi gorfod ystyried yw effaith y cynllun ar ecoleg yr afon, pysgod, bywyd gwyllt a defnyddwyr eraill o'r dŵr."