Cymru yn yr Oes Haearn

Cyhoeddwyd
disgrifiad o’r llunDyma sut y byddai Bryn Eryr wedi edrych yn Oes yr Haearn. Bydd nifer o bobl wedi eu gwisgo yn nillad y cyfnod yn dehongli bywyd y cyfnod i ymwelwyr

Mae atyniad diweddara' Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru erbyn hyn ar agor i'r cyhoedd. Fferm o'r Oes Haearn yw Bryn Eryr. Mae'r adeilad yn ailgread o fferm fechan ger Llansadwrn yn nwyrain Ynys Môn.

Mae'r adeilad yn cynnwys dau dŷ crwn gyda waliau clai sy'n chwe throedfedd o drwch, a thoeau gwellt siâp côn.

Cafodd ei adeiladu gyda chymorth cannoedd o wirfoddolwyr, plant ysgol a phobl leol o Drelái a Chaerau. Dyma i chi gipolwg ar y gwaith o godi'r atyniad. Diolch i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru am gael rhannu'r lluniau:

disgrifiad o’r llunDechrau'r daith - safle Bryn Eryr yn Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru
disgrifiad o’r llunParatoi'r tîr ar safle Bryn Eryr, fferm yn Ynys Môn sy'n deillio nol i'r Oes Haearn Newydd
disgrifiad o’r llunY safle yn cael ei farcio
disgrifiad o’r llunMi fedrwn ni weld siapiau'r waliau. Bydd dau dŷ crwn yn cael eu codi yma
disgrifiad o’r llunCasglu gwellt ar gyfer Bryn Eryr
disgrifiad o’r llunMae hi fel cynhaeaf gwair!
disgrifiad o’r llunMae'r waliau yn codi'n araf
disgrifiad o’r llunY pensaer Gerallt Nash yn arwain y gwaith cynllunio
disgrifiad o’r llunMae angen hyfforddi nifer o wirfoddolwyr brwdfrydig
disgrifiad o’r llunBydd cannoedd o wirfoddolwyr gan gynnwys plant ysgol ac aelodau o gymunedau cyfagos Caerau a Trelai yn helpu gyda'r gwaith o godi Bryn Eryr
disgrifiad o’r llunMae symud y clai yn waith caled! Bydd 'na ddyfnder o chwe troedfedd i'r waliau felly mae angen cryn dipyn o glai!
disgrifiad o’r llunParatoi'r polion
disgrifiad o’r llunMae'r polyn canol wedi ei godi. Bydd modd gosod y tô gwellt cyn bo hir
disgrifiad o’r llunMae 'na gadernid i'r strwythur
disgrifiad o’r llunY tai yn barod i'w toi
disgrifiad o’r llunY tai crwn wedi eu cwblhau