Swffragetiaid a'r Eisteddfod

Mae cyfnod Archdderwydd benywaidd cyntaf yr Eisteddfod Genedlaethol newydd ddod i ben, ond dydy'r Eisteddfod ddim wedi croesawu lleisiau llafar benywaidd bob amser.

Yn 1912, cafodd Merched y Fôt eu curo a'u herlid allan o'r babell fawr wedi iddyn nhw herio araith 'eilun y genedl', David Lloyd George, a tharfu ar hedd seremoni'r Cadeirio. Roedd pobl felly yn poeni beth fyddai'n digwydd yn Eisteddfod Genedlaethol 1913, sef y tro diwethaf i'r ŵyl ymweld â'r Fenni.

Yr hanesydd Dr Elin Jones sy'n olrhain y cysylltiad cythryblus rhwng yr Eisteddfod a'r Swffragetiaid.


Swffragetiaid Image copyright Casgliad y Werin
Image caption Swffragetiaid ar 'bererindod' ym Mharc Cathays, Caerdydd, yn 1913

Ymgyrch yn dwysáu

Erbyn 1913 roedd ymgyrchoedd y Swffragetiaid yn eu hanterth ac mewn llythyr di-enw at y wasg, daeth bygythiad i saethu unrhyw swffraget fyddai'n ceisio amharu ar ddathliadau Eisteddfod Y Fenni.

Bu methiant dulliau di-drais y 'Suffragists' i ennill y bleidlais i fenywod yn sbardun i ddilynwyr Mrs Pankhurst ddechrau tynnu sylw at anhegwch y gyfundrefn trwy ddulliau newydd mwy ymosodol. O 1903 ymlaen 'gweithredoedd nid geiriau' oedd eu harwyddair, a rhoddwyd y llysenw gwawdlyd 'Suffragettes' iddynt.

Yn ystod y blynyddoedd nesaf, daeth y Swffragetiaid hyn i'r amlwg trwy ymosod ar eiddo, paentio sloganau, cynnal gwrthdystiadau - a tharfu ar gyfarfodydd cyhoeddus megis eisteddfodau, yn enwedig pan oedd Lloyd George yn annerch. Os oedd e'n arwr i'r mwyafrif yng Nghymru ar y pryd, gelyn ydoedd ym marn y Swffragetiaid. Addawodd ei gefnogaeth i'w hachos pan oedd yn yr wrthblaid, ond ni wireddodd hynny pan ddaeth yn aelod o'r llywodraeth.

David Lloyd George a Swffragetiaid Image copyright Casgliad y Werin
Image caption Roedd Swffragetiaid yn beio David Lloyd George am dorri ei addewid i gefnogi'r hawl i ferched i bleidleisio, felly roedd rhai ohonyn nhw'n ei ddilyn o amgylch y lle yn gyson, yn ceisio pledio eu hachos

Nid yw'n rhyfedd felly i'r Swffragetiaid geisio torri ar draws ei gyfarfodydd, ac roedd rhai'n barod i wneud mwy na hynny. Mewn cyfarfod yng Nghaerdydd yn Chwefror 1913 cyhoeddodd Mrs Pankhurst fod y Swffragetiaid yn gyfrifol am ymgais yn gynharach y diwrnod hwnnw i ffrwydro tŷ oedd yn cael ei adeiladu ar gyfer Lloyd George.

Roedd yr Eisteddfod yn bwysig iawn i Lloyd George. Roedd yn llywyddu'n gyson, ac yn manteisio ar y cyfle a gai i gyflwyno ei bolisïau a'i syniadau wrth annerch o'r llwyfan. Ond yn Eisteddfod Wrecsam ym 1912 torrodd Swffragetiaid ar draws ei araith gyda'u 'gwaedd ystrydebol' yng ngeiriau 'Y Brython', ac fe aeth y cyfan yn sgarmes cas rhwng y Swffragetiaid a'r dorf.

"Eithafwyr anghyfrifol"

Rhaid cofio bod mwyafrif llethol y boblogaeth nid yn unig o blaid Lloyd George, ond yn erbyn y syniad o roi'r bleidlais i fenywod o gwbl. Ar ben hynny, cas ganddynt ddulliau'r Swffragetiaid o dynnu sylw at eu hachos. Ystyrient y Swffragetiaid yn eithafwyr anghyfrifol oedd yn ymddwyn mewn ffordd gywilyddus, anaddas i fenywod parchus.

Ganrif yn ôl, roedd gan y mwyafrif o bobl syniadau clir iawn am rôl 'y fenyw' (merch, gwraig neu fam), ei lle (yn y cartref), ei rhinweddau ('purdeb' rywiol yn bennaf, ond addfwynder a llais tawel, tyner yn ddymunol hefyd). Er bod miliynau o fenywod yn ennill eu bywioliaeth, a nifer mawr ohonynt yn gweithio ochr yn ochr gyda dynion mewn diwydiant, nid oedd y ffaith hwn yn tanseilio'r rhagfarnau poblogaidd yn erbyn menywod a fentrai i 'fyd dynion', megis gwleidyddiaeth a chyfarfodydd cyhoeddus a allai droi'n anhrefnus.

Felly wrth i'r Swffragetiaid darfu ar gyfarfodydd Lloyd George a gweithgareddau'r Eisteddfod Genedlaethol roeddent yn ymosod ar y rhagfarnau hyn, a byddai cynulleidfaoedd yn ymateb yn ffyrnig. Menywod yn mynd i gyfarfodydd cyhoeddus heb eu gwŷr! Yn tynnu sylw trwy weiddi allan! Yn herio dynion parchus! Yn tarfu ar holl gyfundrefn cymdeithas - i lawr â nhw! Bwrwch eu hetiau oddi ar eu pennau, tynnwch eu dillad oddi ar eu cefnau a'u gwallt o'u pennau, cicwch nhw, poerwch yn eu hwynebau!

Swffraget Image copyright Casgliad y Werin
Image caption Roedd delweddau'r cyfnod yn portreadu'r Swffragetiaid fel ffigurau grotésg, oedd yn haeddu cael eu gwawdio

Mewn cyfarfod ar ôl cyfarfod bu'n rhaid i'r heddlu achub y swffragetiaid o ddigofaint y dorf. Teimlai gwrthwynebwyr y Swffragetiaid eu bod yn amddiffyn trefn cymdeithas rhag ymosodiadau barbariaid oedd am ei gwyrdroi. Mae naws hunangyfiawn a buddugoliaethus i lawer o adroddiadau'r wasg sy'n disgrifio'r driniaeth front a gafodd y Swffragetiaid.

Mae delweddau'r cyfnod, megis y cartŵnau a'r cardiau post oedd mor boblogaidd ar y pryd, yn adlewyrchu'r digofaint hwn, ac yn portreadu Swffragetiaid gyda dirmyg a gwawd.

A beth ddigwyddodd yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni yn 1913? Yn fyr, roedd heddwch yn wir - amddiffynwyd y Maes rhag y 'gwylliaid peisiog', ac ni ddaeth Lloyd George i'r Eisteddfod o gwbl.

Os ydych am wybod rhagor, bydd y Dr Ryland Wallace yn rhoi'r manylion yn ei ddarlith i Archif Menywod Cymru ddydd Gwener yr Eisteddfod ym mhafiliwn Cymdeithasau 2.