Eisteddfod: 'Adfywiad yn Sir Fynwy'

Frank Olding Image copyright Eisteddfod
Image caption Frank Olding yw cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod y Fenni

Bob tro mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn dewis ardal i ymweld â hi, un o'r camau cyntaf yw penodi cadeirydd i'r pwyllgor gwaith yn yr ardal honno.

Un o brif ddyletswyddau'r cadeirydd yw cadw trefn ar yr holl is-bwyllgorau a chodi'r arian sy'n angenrheidiol i gynnal y brifwyl.

Eleni mae'r cyfrifoldeb yna wedi disgyn ar ysgwyddau Frank Olding, ac mae'r gwaith wedi dod â mwynhad aruthrol iddo.

Dyw'r Eisteddfod Genedlaethol ddim wedi bod yn Sir Fynwy ers 1913, ac roedd Mr Olding yn cydnabod nad oedd y gwaith yn hawdd.

'Pawb yn cydweithio'

Dywedodd: "Wrth gwrs mae hi wedi bod yn fwy anodd na mewn llefydd eraill, ond ry'n ni wedi llwyddo ac wedi cael hwyl mawr wrth wneud hynny.

"Mae'r gefnogaeth - sydd wedi dod gan bobl annisgwyl efallai - wedi bod yn eithriadol.

"Ry'n ni wedi cael cefnogaeth y Cymry Cymraeg, y Cymry Di-Gymraeg a Saeson, gyda phawb yn cydweithio.

"I ddweud y gwir ry'n ni wedi gweld adfywiad o'r Gymraeg yn y sir o ran ysgolion yn enwedig.

"Ond i roi syniad i chi o faint y dasg, mae gan Ynys Môn 38 o bwyllgorau yn codi arian ar gyfer Eisteddfod y flwyddyn nesaf - 5 sy' gyda ni!"

Rai blynyddoedd yn ôl fe ddaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gytundeb gyda'r Eisteddfod oedd yn golygu bod holl siroedd Cymru yn rhannu'r baich o gynnal y brifwyl yn flynyddol.

Mae hynny, medd Frank Olding, wedi ei gwneud yn haws i gadw'r elfen deithiol o'r Eisteddfod.

"Fe ddyle hi deithio," meddai, "oherwydd heb hynny fydde hi byth yn dod i fan hyn na llefydd tebyg.

"Mae'r Eisteddfod yn gallu trydaneiddio ardal, ac mae'n dda hefyd i eisteddfodwyr ymweld â llefydd gwahanol er mwyn cael yr amrywiaeth yna o Gymru.

"Mae'n hawdd tanbrisio effaith Eisteddfod ar sir, a holl blant y sir yma'n enwedig. Maen nhw nawr yn gweld y Gymraeg fel rhywbeth byw ac yn iaith i gymdeithasu ynddi, sy'n rhyfeddol o bwysig.

"Hefyd mae'r gwaith ry'n ni wedi ei wneud mewn ysgolion - gyda chymorth Twm Morys yn Ysgol Gynradd y Fenni er enghraifft - wedi bod yn wych ac yn codi ymwybyddiaeth rhieni Di-Gymraeg a dwi'n meddwl y bydd hynny'n effaith barhaol."

Gwaddol 'ar waith'

Bob tro y mae'r brifwyl yn mynd i ardal sydd â chanran is o siaradwyr Cymraeg, mae son am 'waddol' y brifwyl i'r ardal honno, ac mae Frank Olding yn hyderus am hynny hefyd.

"Mae'r gwaddol ar waith yn barod fydden i'n dweud," meddai. "Ers i ni fod wrthi yn dechrau trefnu mae cymdeithasau a grwpiau wedi'u sefydlu yn y sir i gynnal gweithgareddau o bob math.

"Ry'n ni wedi cael cefnogaeth wych gan y Cyngor Sir, ac mae'r aelod seneddol lleol {David Davies} wedi paratoi CD i ni er mwyn cynorthwyo gyda'r gwaith o godi arian - mae pawb wedi cydweithio.

"Hefyd mae Pobl Caerdydd gyda chynllun o'r enw 'Llais y Maes' wedi bod yn gweithio gyda chymunedau lleol er mwyn cynhyrchu rhyw fath o bapur bro Cymraeg ar-lein, ac rwy'n sicr y bydd hwnnw'n parhau ar ôl yr Eisteddfod.

"Hoffwn i ddweud nad yw'r gwaith {o fod yn gadeirydd y pwyllgor gwaith} wedi bod yn drafferth o gwbl. Mae hynny bron iawn yn wir!

"Mae yna adegau o 'stress' mawr wedi bod, ond rhywsut mae hynny wedi cynyddu'r pleser o fod wedi cwblhau'r gwaith yn llwyddiannus - mae'r 'job satisfaction' wedi bod yn anhygoel."

Mae un peth yn sicr, pan fydd Eisteddfod Genedlaethol y Fenni yn dod i ben ar 6 Awst, fe fydd Frank Olding yn gallu cymryd hoe gwbl haeddiannol.