Cwpwl o'r Felinheli yn ôl adref wedi taith 14 mlynedd

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Chris and Fiona Jones
Disgrifiad o’r llun, Fiona a Chris Jones

Mae cwpwl o Wynedd wedi dychwelyd yn ôl i'w cartref ar ôl treulio dros ddegawd yn hwylio o gwmpas y byd.

Fe hwyliodd Chris a Fiona Jones o'r Felinheli yn eu cwch Threeships am 14 mlynedd ers cychwyn y daith yn 2002.

Ers dechrau'r antur, maen nhw wedi ymweld â mwy na 40 o wledydd, gan deithio 90,000 o filltiroedd.

Mae'r cwpwl wedi bod yn llysgenhadon dros y blynyddoedd i'r Ocean Cruising Club ac wedi blogio am y daith dros y blynyddoedd.

Ffynhonnell y llun, Chris and Fiona Jones
Disgrifiad o’r llun, Eu cwch, Threeships, ar eu taith o gwmpas y byd

Eu taith ers Mehefin 2002:

Disgrifiad o’r llun, Llwybr eu taith dros yr 14 mlynedd ddiwethaf