Lluniau: Llyfr y Flwyddyn 2016
- Cyhoeddwyd

Ar 21 Gorffennaf cafodd seremoni wobrwyo Llyfr y Flwyddyn 2016 ei chynnal yng nghanolfan gelfyddydol Tŷ Coch ym Merthyr Tudful. Dyma i chi rai o'r uchafbwyntiau trwy lens y ffotograffydd Sioned Birchall:
Beirniaid y gwobrau Cymraeg: Llion Pryderi Roberts, Huw Stephens a Lleucu Roberts
Llenyddiaeth Cymru sy'n trefnu'r noson. Dyma y Prif Weithredwr Lleucu Siencyn yn sgwrsio gyda Alun Davies, Gweinidog yr Iaith Gymraeg a Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru
Mererid Hopwood, ar restr fer y Farddoniaeth Gymraeg cyn dechrau'r seremoni
Roedd Thomas Morris wedi ei enwebu deirgwaith yn y categorïau Saesneg. Cafodd gefnogaeth dda gan ei hen ffrindiau yn Ysgol Gyfun Gymraeg Cwm Rhymni
Lisa Gwilym yw meistres y ddefod
"Pwy sydd wedi ennill te?" Y gynulleidfa'n barod am y seremoni
Enillodd Caryl Lewis Wobr y Bobl am ei nofel 'Y Bwthyn'
Roedd Caryl ar ei thraed eto mewn rhai munudau i dderbyn gwobr y Nofel Gymraeg Orau
Mererid Hopwood yn derbyn ei gwobr am 'Nes Draw' y Farddoniaeth Gymraeg orau
Jasmine Donahaye, enillydd y wobr Ffeithiol Greadigol Saesneg am ei chyfrol 'Losing Israel'
Gruffydd Aled Williams gyda'r wobr Ffeithiol Greadigol am ei gyfrol 'Dyddiau Olaf Owain Glyndŵr'
Philip Gross, enillydd Gwobr Farddoniaeth Roland Mathias am ei gyfrol 'Love Songs of Carbon'
Huw Stephens yn datgelu enillydd Llyfr Cymraeg y Flwyddyn
'Y Bwthyn' yn llawn: Llongyfarchiadau mawr i Caryl Lewis ar ennill tair gwobr gan gynnwys Llyfr Cymraeg y Flwyddyn
Roedd na drindod o wobrau hefyd i Thomas Morris am ei nofel "We Don't Know What We're Doing'. Mae'n amlwg bod Thomas yn gwybod beth mae'n ei neud wrth gipio Gwobr y Bobl, Y Nofel Saesneg Orau a Llyfr Saesneg y Flwyddyn.