Penygroes: Cyhuddo dyn o lofruddiaeth
- Cyhoeddwyd

Mae dyn 25 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth Emma Louise Baum ym Mhenygroes ddydd Llun, 18 Gorffennaf.
Bydd David Nicholas Davies o Drefor ger Caernarfon yn ymddangos gerbron ynadon Caernarfon fore Gwener.
Dywedodd heddlu sy'n ymchwilio i lofruddiaeth y fam ifanc iddi farw o anafiadau difrifol i'w phen.
Yn gynharach ddydd Iau, cafodd dynes ei ryddhau ar fechnïaeth. Mae hi'n parhau'n rhan o ymchwiliad yr heddlu ac yn cael ei hamau o wyrdroi cwrs cyfiawnder ac o gynorthwyo troseddwr.
Anafiadau difrifol
Dywedodd y Ditectif Uwch-Arolygydd Iestyn Davies, sy'n arwain yr ymchwiliad: "Er bod person wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth fe fydd presenoldeb yr heddlu yn neuadd y pentref yn parhau er mwyn tawelu ofnau, ac er mwyn bod yn gyswllt er mwyn derbyn gwybodaeth bellach gan unrhyw un.
"Bydd swyddogion yn dal i gynnal ymchwiliad yn lleol, ac fe fyddwn i'n ategu'r apêl am wybodaeth fydd yn ein galluogi i ddeall yn llawn y gyfres o ddigwyddiadau arweiniodd at ddarganfod corff Emma."
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â'r heddlu ar 101 neu Daclo'r Tacle yn anhysbys ar 0800 555 11, gan nodi'r cyfeirnod U105426.