Gwrthdrawiad Y Ffôr: Cyhoeddi enw dynes 90 oed fu farw

A499 Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd yr A499 yn Y Ffôr

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cyhoeddi enw dynes 90 oed fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Y Ffôr ger Pwllheli ddydd Mercher.

Bu farw Mair Roberts yn dilyn gwrthdrawiad rhwng fan Ford Transit gwyn a char Volkswagen Polo arian ar ffordd yr A499 am 15:45.

Yn ôl yr heddlu, bu farw'r wraig, oedd yn teithio yn sedd flaen y car, yn syth.

Mae ei theulu wedi rhoi teyrnged iddi, gan ddweud eu bod yn eithriadol o drist o'i cholli.

"Roedd Mair yn ddynes glên a phoblogaidd, ac roedd pawb oedd yn ddigon ffodus i'w 'nabod yn ei charu," meddai'r teulu mewn datganiad.

Cafodd dwy ddynes arall - y gyrrwr a theithiwr arall - oedd yn y Volkswagen, eu cymryd i Ysbyty Gwynedd Bangor gydag anafiadau difrifol.

Ni chafodd gyrrwr y fan unrhyw anafiadau.

Bu'r ffordd ar gau am bedair awr yn dilyn y digwyddiad, ac mae Heddlu'r Gogledd wedi apelio i unrhyw dystion i gysylltu â'r llu.