Tri o Gymry yn nhimau rygbi Olympaidd Prydain

James Davies Image copyright Getty Images
Image caption Mae James Davies wedi cynrychioli tîm saith bob ochr Cymru ar 13 achlysur

Mae tri o Gymry wedi cael eu henwi yn nhimau rygbi saith bob ochr Prydain ar gyfer y Gemau Olympaidd yn Rio de Janeiro fis nesaf.

Bydd blaenasgellwr y Scarlets, James Davies a'r arbenigwr saith bob ochr Sam Cross yn rhan o dîm y dynion, tra bod Jasmine Joyce wedi cael ei chynnwys yng ngharfan y merched.

Bydd dau o Gymry eraill, Luke Treharne a Megan Jones, hefyd yn teithio fel eilyddion i'r timau.

Eleni fydd y tro cyntaf ers 108 mlynedd i rygbi gael ei chwarae yn y Gemau Olympaidd, a dyma fydd y tro cyntaf i ffurf saith bob ochr y gêm gael ei defnyddio.

Fe fydd tîm y merched yn cystadlu rhwng 6 a 8 Awst gan wynebu Brasil, Japan a Canada yn eu gemau grŵp.

Kenya, Japan a Seland Newydd - sydd wedi enwi Sonny Bill Williams yn eu tîm - fydd yng ngrŵp tîm dynion Prydain, gyda'u cystadleuaeth nhw'n cael ei chwarae rhwng 9 a 11 Awst.

Tîm saith bob ochr dynion Prydain: Mark Bennett, Dan Bibby, Phil Burgess, Sam Cross, Alex Davis, James Davies, Ollie Lindsay Hague, Tom Mitchell, Dan Norton, James Rodwell, Mark Robertson, Marcus Watson.

Eilydd: Luke Treharne.

Tîm saith bob ochr merched Prydain: Claire Allan, Abbie Brown, Heather Fisher, Natasha Hunt, Jasmine Joyce, Katy McLean, Alice Richardson, Emily Scarratt, Emily Scott, Danielle Waterman, Joanne Watmore, Amy Wilson-Hardy.

Eilyddion: Megan Jones, Kay Wilson.