Dathliad i gwpl priod yn Llanuwchllyn wedi problemau fisa

Lliwen a Gareth Image copyright AFP
Image caption Lliwen a Gareth ar ddiwrnod eu priodas yn Iwerddon.

Bydd dynes o Wynedd a'i gŵr yn cael dathliad yn Llanuwchllyn ddydd Sadwrn wedi i'r ddau orfod priodi yn Iwerddon oherwydd problemau fisa.

Roedd Lliwen Macrae wedi gobeithio priodi Gareth, 30 oed o Seland Newydd, yng Nghymru ym mis Gorffennaf llynedd, ond gwrthododd yr awdurdodau'r hawl iddo gael aros yn y wlad.

Er mwyn iddyn nhw allu byw gyda'i gilydd, penderfynodd y ddau symud i Tipperary yn Iwerddon am chwe mis, ar ôl i Gareth gael fisa yno.

Priododd y ddau mewn seremoni dawel yn nhre Nenagh yn Tipperary ar 9 Hydref.

Mawn nhw'n paratoi nawr i ddathlu yn ôl yn Llanuwchllyn, cartref Lliwen, gyda ffrindiau a pherthnasau o sawl gwlad wahanol yn ymuno.

Dywedodd Lliwen: "Mi fydd o'n ddathliad pwysig iawn. Mae gennym ni i deulu o Seland Newydd a theulu newydd o Iwerddon yn dod drosodd.

"Da ni'n reit excited ac mae'n bwysig ein bod ni'n ei wneud o achos mae o'n gyfle i'r teulu allu ein gweld ni'n gwneud y vows eto felly mi fydd o jyst yn wych yn y diwedd fod pawb yn gallu bod yng Nghymru i ddathlu efo ni."