Gareth Bale yn diolch i ferch o Fôn am ddarlun ohono

bale Image copyright Gwen Johnson

Mae Gareth Bale wedi anfon neges i longyfarch merch ysgol o Ynys Môn am ddarlun yr oedd hi wedi greu ohono yn gafael yn ei ferch yn dilyn buddugoliaeth Cymru yn erbyn Gogledd Iwerddon yn ystod Euro 2016.

Cafodd y llun pensil gan Gwen Johnson, disgybl 15 oed yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch, ei ysbrydoli ar ôl iddi weld delweddau o'r seren gyda'i ferch yn dilyn y gêm.

Fe ddarlledwyd y lluniau o Bale a'i ferch hynaf, Alba Violet, sy'n dair oed, ar draws y byd wrth iddi redeg ar y cae yn y Parc des Princes, Paris, gan gloriannu un o'r adegau mwyaf arbennig o gystadleuaeth Euro 2016.

Cafodd y llun sylw mawr ar wefan Twitter ac fe aeth yn feiral wrth i fam Gwen, Llio Johnson, geisio anfon y llun at Gareth Bale er mwyn cael ei farn am y darn celf.

Mewn neges at Llio a'i merch ddydd Iau, dywedodd Gareth Bale fod yn llun yn un gwych, gan ymddiheuro nad oedd wedi ymateb yn gynt.

Cyn derbyn yr ymateb ddydd Iau, dywedodd Gwen, o bentref Llanfechell, Ynys Môn, sydd hefyd yn astudio celf yn yr ysgol: "Rydw i wedi bod yn gwylio Cymru'n gwneud yn dda, ac wedi gweld fideos o Bale a'i ferch yn chwarae a rhedeg o gwmpas ar y cae, ac roedd hynny mor ciwt."

Image copyright Twitter
Image caption Ymateb Gareth Bale i gelf Gwen Johnson ar Twitter